Gofal mewn Ardaloedd Gwledig

Sir wledig yw Sir Benfro. Un o lawer ledled Cymru. Mae darparu gwasanaethau o unrhyw fath yn achosi problemau. Mae aneddiadau wedi’u gwasgaru, mae gwasanaethau’n cael eu cyfyngu gan bellter, mae lefelau poblogaeth isel yn arwain at gau ysgolion a lleihau gwasanaethau cyhoeddus, pobl ifanc yn gadael i ddod o hyd i waith , pobl hŷn yn ymddeol yma i elwa o harddwch cefn gwlad a’r ffordd heddychlon o fyw.
Mae angen unigol yr un fath i raddau helaeth, lle bynnag y mae’n digwydd. Mae angen cysgod, bwyd,iechyd,diben, cyswllt ag eraill ar fodau dynol, lle bynnag y maent yn byw ,waeth pa mor hen ydynt, beth bynnag fo’u hoedran neu eu rhyw neu eu hamgylchiadau. Mae anghenion yn tueddu i uno’r naill i’r lall. Mae iechyd yn dioddef os yw deiet yn wael a bod tai’n annigonnol. Mae iechyd yn dioddef os nad yw ffrindiau’n galw rownd ac os nad ydych yn mynd allan llawer mae’n hawdd llithro allan o gyswllt yn araf ac mae’n anodd ei atal rhag digwydd.
Rydym yn defnyddio’r term ‘Gofal’ i ymdrin â’n hymateb-y gofalwyr cyflogedig a anfonir gan yr asiantaeth sy’n ‘gwneud’ tri ymweliad y dydd, ugain munud yr un, ein codi, newid ein padiau anymataliaeth a gwneud brechdan gyflym. Y gofalwr preifat sy’n byw mewn neu sy’n galw ddwywaith yr wythnos ac sy’n gwneud beth bynnag y mae angen ei wneud. Mae’n cynnwys y nyrs yn yr ysbyty a’r fam neu’r tad, brawd neu chwaer, cefnogi’r anabl sy’n dysgu, pobl sydd dan anfantais gorfforol, y dioddefwr damweiniau- lle bynnag y mae pobl yn byw- mewn trefi, mae’n pentrefi, mewn ffermdai anghysbell, mae angen gofal ar bobl ac mae rhai ohonynt yn ei dderbyn.
Mae Argyfwng Covid wedi dangos i ni – bod cymunedau lleol yn gallu cyrraedd pobl yn gyflymach na’r gwasanaethau cyhoeddus swyddogol ac wedi gallu ymateb i amrywiaeth eang o anghenion. Gofynnwyd i bobl ‘Beth sydd angen arnoch?’ a diwallwyd eu hanghenion sef bwyd, siopa , cerdded cŵn, mynd i ôl prescriptsiwn a, rhywun i siarad gyda. Roedd eu hanghenion gwirioneddol yn cael eu diwallu. Pan ddaliodd llywodraeth leol i fyny , ymunodd rhai Cynghorau â hwy – eu helpu , eu hwyluso a’u cefnogi. Ceisiodd rhai gymryd drosodd, i ficro – reoli, i ‘rowndio pethau’ ar sail ‘un ateb sy’n addas i bawb ac yn haws ei gyflawni’, ond roedd grwpiau cymunedol lleol eisioes wedi dechrau dangos nad yw un ateb yn addas i bawb ac mai’r ffordd orau o ymateb i anghenion unigol yw ar sail unigol.
Mae ‘Solva Care’ wedi bod yn rhedeg ers pum mlynedd bellach. Sefydlwyd i gefnogi’r henoed yn ein cymuned i’w helpu i aros yn eu cartrefi eu hunain. Roedd ein prosiect eisioes wedi ein dysgu i ni beth mae argyfwng Covid yn ei wneud yn amlwg- bod angen i Ofal ganolbwyntio ar yr unigolyn, bod angen iddo gynnwys yr unigolyn a pheidio ‘wneud’ i rywun. Y ffordd orau o ddarparu gofal yw gan ac yn y gymuned leol gyda dealltwriaeth drylwyr o amgylchiadau lleol ac ymateb yn uniongyrchol i angen unigol. Cawsom wybod yn gynnar yn ein prosiect y gall pobl hŷn gynnig gofal yn ogystal a’i dderbyn ac nad yw gofal yn hawl i’r henoed yn unig – Mae pobl iau, plant, rhieni sengl, pobl allan o waith- i gyd ag anghenion ac yn medru rhoi gofal. Mae gofal go iawn o’r gwaelod i fyny, nid o’r brig i lawr yn gydweithredol nad yw’n gystadleuol- mae’r rhaniad rhwng Gofal Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn milwrio yn erbyn darparu unrhyw ofal.
Felly:
Yr hyn y mae angen i ni ei wneud yn awr yw newid y system- efallai dechrau drwy dwleidyddoli gofal ? Atal gwleidyddion rhag ei ddefnyddio i ennill pleidleisiau?
- gweithio gyda’n gilydd i gadw’r hyn sydd wedi gweithio’n dda.
- dyfeisio system sy’n cefnogi ac yn annog prosiectau cymunedol,
- un sy’n hyblyg ac yn canolbwyntio ar yr unigolyn.
- neilltuo cyllid ar lefel genedlaethol a chaniatau hyblygrwydd ar gyfer addasu i amgylchiadau lleol.
Ond Llawer haws cytuno y bydd ymholiad yn cael ei sefydlu ac y byddant yn adrodd yn ôl ac yn golygu tra byddwn yn parhau fel yr arferem oherwydd ein bod i gyd yn gwybod sut yr oedd yn gweithio?
Leave a Reply